Encephalitis Society

Croeso

Cyflwyniad

Mae’r Gymdeithas wrthi’n cyfieithu gwybodaeth allweddol ar ffurf testun. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes gennym yr adnoddau i ymateb i ymholiadau mewn unrhyw iaith heblaw Saesneg. Fodd bynnag, os ydych yn siarad Saesneg ac eisiau gwneud unrhyw sylwadau am y cyfieithiad, neu drefn y tudalennau, yna anfonwch nhw atom, ar bob cyfrif. Dyma’r cyfeiriad e bost: translations@encephalitis.info

Enceffalitis – y ffeithiau’n fyr

Beth yn union yw enceffalitis?

Yn syml, llid yr ymennydd yw enceffalitis ac fel rheol mae’n ddigwyddiad prin iawn ar ôl cael firws. Mae enceffalitis yn wahanol i lid yr ymennydd (meningitis) sydd yn llid ar yr haenau sy’n gorchuddio’r ymennydd (pilennau’r ymennydd) er bod hwnnw hefyd yn gallu digwydd oherwydd haint bacteriol neu firaol.

Faint o fathau o enceffalitis sydd yn bodoli?

Yn y bôn, mae 2 fath:
Enceffalitis firaol aciwt – lle mae’r firws yn ymosod ar yr ymennydd yn uniongyrchol.
Enceffalitis Ôl Haint (a elwir yn Enceffalomyelitis Ymledol Aciwt neu ADEM) – lle mae haint tu allan i’r ymennydd yn sbarduno’r system imiwnedd i ymosod ar yr ymennydd.

Pwy sy’n gallu cael enceffalitis?

Unrhyw un. Yn ystadegol, y grwpiau oedran risg uchel yw plant o’u geni i 7 oed, 16 to 25 oed a phobl dros 55 oed. Amcangyfrifir bod 4 allan o bob 100,000 o bobl yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn ei gael bob blwyddyn.

Beth sy’n achosi enceffalitis?

Mae’r firysau sy’n gyfrifol yn rhai cyffredin, yn aml. Maent yn cynnwys y frech goch, brech yr ieir, ffliw, entofirysau (salwch stumog) a herpes simplex (firws dolur annwyd). Yn y mwyafrif o achosion, nid yw’r firws sy’n gyfrifol yn cael ei ddarganfod.

Beth yw’r prif symptomau?

Mae enceffalitis yn aml yn dechrau gyda salwch tebyg i ffliw neu gur pen. Mae’r symptomau sy’n awgrymu fod hwn yn salwch mwy difrifol yn digwydd yn nes ymlaen ac yn nodweddiadol maent yn cynnwys “newidiadau yn y lefel ymwybod”. Gall y rhain gynnwys ffwndro, bod yn gysglyd, ffitiau, a choma. Mae symptomau eraill yn gallu cynnwys atgasedd at oleuadau llachar, methu siarad neu reoli symudiadau, newidiadau synhwyrol, cric yn y gwar, ymddygiad anarferol, yn ogystal â symptomau eraill, yn dibynnu ar ba ran o’r ymennydd sydd wedi ei effeithio.

Sut mae diagnosis o enceffalitis yn cael ei wneud?

Gwneir diagnosis o enceffalitis lle ceir tystiolaeth o lid. Mae’r ystod o symptomau posibl a chyflymder eu datblygiad yn amrywio’n eang, ac maent i’w cael mewn cyflyrau eraill heblaw enceffalitis, felly mae diagnosis yn gallu bod yn anodd.

Sut mae gwahaniaethu rhwng y posibiliadau?

Bydd prawf tynnu hylif madruddyn y cefn yn dangos nad meningitis bacteriol yw hwn a bydd yn ceisio canfod y firws herpes. Bydd sgan o’r ymennydd (CT neu MRI) yn cau allan tiwmor ar yr ymennydd, ymlediadau (aneurysm) a strôc ac yn dangos maint y llid. Bydd profion gwaed yn dangos unrhyw enceffalopathi metabolig.

Sut mae trin enceffalitis?

Mae triniaeth brydlon gyda Acyclovir yn bwysig. Asiant gwrth-firol yw Acyclovir sydd yn effeithiol yn erbyn firysau herpes. Er nad yw’n cael ei ganfod bob amser, herpes simplex (y firws dolur annwyd) yw’r achos mwyaf cyffredin o enceffalitis yn y wlad hon. Nid oes triniaeth benodol, ar hyn o bryd, ar gyfer unrhyw firws arall sy’n heintio’r ymennydd. Gall triniaethau eraill gynnwys cyffuriau gwrth-gonfylsiwn i leihau aflonyddwch. Efallai bydd angen gofal dwys gydag awyriad artiffisial mewn achosion difrifol i leihau’r chwydd yn yr ymennydd. Gellir rhoi gwrthfiotig i drin heintiau bacteriol.

Ydy pobl yn gwella ?

Gall y nefrgelloedd gael niwed neu gael eu dinistrio, un ai gan yr haint firaol neu’r pwysedd eithriadol oherwydd y llid, neu’r ddau. Gelwir hyn yn “anaf caffaeledig i’r ymennydd”. Felly, mae colli rhywfaint o allu’r ymennydd yn ganlyniad tebygol i enceffalitis. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, mae’r golled hon yn digwydd ar raddfa gymharol fechan, ac yn arwain at namau bychain iawn, fel colli mymryn o gyflymdra wrth feddwl. Mewn achosion eraill, gall y niwed fod yn eang gan arwain at namau sylweddol.

Mae gwella yn dueddol o fod yn broses hir ac araf deg ac mae rhaglen o weithgareddau a gorffwys yn cynorthwyo’r broses. Argymhellir cyfeirio’r claf at niwroseicolegydd i benderfynu pa rai o swyddogaethau’r ymennydd sydd wedi cael eu heffeithio, os o gwbl, a pha un yw’r ffordd orau o’u hadennill.

Beth yw’r sgîl effeithiau?

Bydd amrywiaeth eang yn y modd y mae enceffalitis yn effeithio ar yr unigolyn yn y tymor hir. Blinder, cur pen sy’n ailddigwydd, anawsterau gyda’r cof, canolbwyntio a chydbwysedd yn cael eu hadrodd yn aml, fel y mae strancio, newid hwyliau, bod yn ymosodol a lletchwith. Mae epilepsi, sydd yn gallu bod yn nodwedd o’r salwch aciwt, yn gallu datblygu wythnosau neu fisoedd ar ôl i’r salwch fynd heibio. Mae problemau corfforol yn gallu cynnwys gwendid i lawr un ochr o’r corff, colli teimlad a rheolaeth o swyddogaethau’r corff a symudiadau. Mae problemau iaith a lleferydd yn gyffredin hefyd. Gall cyflymder meddwl ac adweithio fod yn arafach hefyd.

Profedigaeth

O gymharu â chlefydau heintus eraill, mae’r gyfradd marwolaethau o enceffalitis yn uchel. Mae’r salwch yn gallu bod yn farwol yn gyflym iawn sy’n achosi trawma difrifol i’r holl deulu. Mae’n anodd deall, yn y byd modern, sut mae haint firaol yn gallu cael canlyniadau mor erchyll.


Yn ôl i’r wefan Saesneg

Last modified: 21/10/05