Cyflwyniad
Mae’r Gymdeithas wrthi’n cyfieithu gwybodaeth allweddol ar ffurf testun.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes gennym yr adnoddau i ymateb i ymholiadau mewn
unrhyw iaith heblaw Saesneg. Fodd bynnag, os ydych yn siarad Saesneg ac eisiau gwneud
unrhyw sylwadau am y cyfieithiad, neu drefn y tudalennau, yna anfonwch nhw atom,
ar bob cyfrif. Dyma’r cyfeiriad e bost: translations@encephalitis.info
Enceffalitis y ffeithiau’n fyr
Beth yn union yw enceffalitis?
Yn syml, llid yr ymennydd yw enceffalitis ac fel rheol mae’n ddigwyddiad prin
iawn ar ôl cael firws. Mae enceffalitis yn wahanol i lid yr ymennydd (meningitis)
sydd yn llid ar yr haenau sy’n gorchuddio’r ymennydd (pilennau’r
ymennydd) er bod hwnnw hefyd yn gallu digwydd oherwydd haint bacteriol neu firaol.
Faint o fathau o enceffalitis sydd yn bodoli?
Yn y bôn, mae 2 fath:
Enceffalitis firaol aciwt lle mae’r firws yn ymosod ar yr ymennydd
yn uniongyrchol.
Enceffalitis Ôl Haint (a elwir yn Enceffalomyelitis Ymledol Aciwt neu ADEM)
lle mae haint tu allan i’r ymennydd yn sbarduno’r system imiwnedd
i ymosod ar yr ymennydd.
Pwy sy’n gallu cael enceffalitis?
Unrhyw un. Yn ystadegol, y grwpiau oedran risg uchel yw plant o’u geni i 7
oed, 16 to 25 oed a phobl dros 55 oed. Amcangyfrifir bod 4 allan o bob 100,000 o
bobl yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn ei gael bob blwyddyn.
Beth sy’n achosi enceffalitis?
Mae’r firysau sy’n gyfrifol yn rhai cyffredin, yn aml. Maent yn cynnwys
y frech goch, brech yr ieir, ffliw, entofirysau (salwch stumog) a herpes simplex
(firws dolur annwyd). Yn y mwyafrif o achosion, nid yw’r firws sy’n
gyfrifol yn cael ei ddarganfod.
Beth yw’r prif symptomau?
Mae enceffalitis yn aml yn dechrau gyda salwch tebyg i ffliw neu gur pen. Mae’r
symptomau sy’n awgrymu fod hwn yn salwch mwy difrifol yn digwydd yn nes ymlaen
ac yn nodweddiadol maent yn cynnwys “newidiadau yn y lefel ymwybod”.
Gall y rhain gynnwys ffwndro, bod yn gysglyd, ffitiau, a choma. Mae symptomau eraill
yn gallu cynnwys atgasedd at oleuadau llachar, methu siarad neu reoli symudiadau,
newidiadau synhwyrol, cric yn y gwar, ymddygiad anarferol, yn ogystal â symptomau
eraill, yn dibynnu ar ba ran o’r ymennydd sydd wedi ei effeithio.
Sut mae diagnosis o enceffalitis yn cael ei wneud?
Gwneir diagnosis o enceffalitis lle ceir tystiolaeth o lid. Mae’r ystod o
symptomau posibl a chyflymder eu datblygiad yn amrywio’n eang, ac maent i’w
cael mewn cyflyrau eraill heblaw enceffalitis, felly mae diagnosis yn gallu bod
yn anodd.
Sut mae gwahaniaethu rhwng y posibiliadau?
Bydd prawf tynnu hylif madruddyn y cefn yn dangos nad meningitis bacteriol yw hwn
a bydd yn ceisio canfod y firws herpes. Bydd sgan o’r ymennydd (CT neu MRI)
yn cau allan tiwmor ar yr ymennydd, ymlediadau (aneurysm) a strôc ac yn dangos
maint y llid. Bydd profion gwaed yn dangos unrhyw enceffalopathi metabolig.
Sut mae trin enceffalitis?
Mae triniaeth brydlon gyda Acyclovir yn bwysig. Asiant gwrth-firol yw Acyclovir
sydd yn effeithiol yn erbyn firysau herpes. Er nad yw’n cael ei ganfod bob
amser, herpes simplex (y firws dolur annwyd) yw’r achos mwyaf cyffredin o
enceffalitis yn y wlad hon. Nid oes triniaeth benodol, ar hyn o bryd, ar gyfer unrhyw
firws arall sy’n heintio’r ymennydd. Gall triniaethau eraill gynnwys
cyffuriau gwrth-gonfylsiwn i leihau aflonyddwch. Efallai bydd angen gofal dwys gydag
awyriad artiffisial mewn achosion difrifol i leihau’r chwydd yn yr ymennydd.
Gellir rhoi gwrthfiotig i drin heintiau bacteriol.
Ydy pobl yn gwella ?
Gall y nefrgelloedd gael niwed neu gael eu dinistrio, un ai gan yr haint firaol
neu’r pwysedd eithriadol oherwydd y llid, neu’r ddau. Gelwir hyn yn
“anaf caffaeledig i’r ymennydd”. Felly, mae colli rhywfaint o
allu’r ymennydd yn ganlyniad tebygol i enceffalitis. Mewn rhai achosion, fodd
bynnag, mae’r golled hon yn digwydd ar raddfa gymharol fechan, ac yn arwain
at namau bychain iawn, fel colli mymryn o gyflymdra wrth feddwl. Mewn achosion eraill,
gall y niwed fod yn eang gan arwain at namau sylweddol.
Mae gwella yn dueddol o fod yn broses hir ac araf deg ac mae rhaglen o weithgareddau
a gorffwys yn cynorthwyo’r broses. Argymhellir cyfeirio’r claf at niwroseicolegydd
i benderfynu pa rai o swyddogaethau’r ymennydd sydd wedi cael eu heffeithio,
os o gwbl, a pha un yw’r ffordd orau o’u hadennill.
Beth yw’r sgîl effeithiau?
Bydd amrywiaeth eang yn y modd y mae enceffalitis yn effeithio ar yr unigolyn yn
y tymor hir. Blinder, cur pen sy’n ailddigwydd, anawsterau gyda’r cof,
canolbwyntio a chydbwysedd yn cael eu hadrodd yn aml, fel y mae strancio, newid
hwyliau, bod yn ymosodol a lletchwith. Mae epilepsi, sydd yn gallu bod yn nodwedd
o’r salwch aciwt, yn gallu datblygu wythnosau neu fisoedd ar ôl i’r
salwch fynd heibio. Mae problemau corfforol yn gallu cynnwys gwendid i lawr un ochr
o’r corff, colli teimlad a rheolaeth o swyddogaethau’r corff a symudiadau.
Mae problemau iaith a lleferydd yn gyffredin hefyd. Gall cyflymder meddwl ac adweithio
fod yn arafach hefyd.
Profedigaeth
O gymharu â chlefydau heintus eraill, mae’r gyfradd marwolaethau o enceffalitis
yn uchel. Mae’r salwch yn gallu bod yn farwol yn gyflym iawn sy’n achosi
trawma difrifol i’r holl deulu. Mae’n anodd deall, yn y byd modern,
sut mae haint firaol yn gallu cael canlyniadau mor erchyll.
Yn ôl i’r wefan Saesneg